Artist cARTrefu – Gwahoddiad i dendro

Posted Tuesday, April 4th, 2017

Mae Age Cymru’n chwilio am ddeuddeg artist ar gyfer cyfnod nesaf cARTrefu (2017-19), a fydd yn gwella ansawdd a darpariaeth y celfyddydau mewn cartrefi gofal ledled Cymru.

Rydym yn chwilio am artistiaid arloesol mewn unrhyw ffurf gelf sydd â dyhead i greu gwaith beiddgar a gwreiddiol gyda phobl hŷn mewn cartrefi gofal. Nid cynnal yr arferol yw amcan y prosiect hwn; rydym ni eisiau unigolion sydd â syniadau newydd a ffres sydd â’r gallu i herio a datblygu’r maes gwaith hwn. Croesawn waith grymus, mentrus, beiddgar a dadleuol – nid ydym yn edrych am waith diogel, arferol a blinedig.

Bydd angen profiad arnoch o gynnal gweithdai gan ddefnyddio’ch ffurf gelf; fodd bynnag, nid yw profiad o weithio gyda phobl hŷn yn hanfodol, gan fod y rhaglen wedi cael ei chynllunio i gynorthwyo ymarferwyr i ddatblygu eu sgiliau yn y maes hwn. Anogwn y rheiny sydd â rhywfaint o brofiad o weithio gyda phobl hŷn i ymgeisio o hyd, os ydynt yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau ymhellach a chydweithio â mentor arbenigol.

cARTrefu Artist Tender WELSH

cARTrefu Artist Tender