Celebrating the Older Dancer | Dathlu Dawnswyr Hŷn

Posted Thursday, May 26th, 2011

Teitl: Dathlu Dawnswyr Hŷn
Dyddiad: Dydd Iau 26 Mai
Lleoliad: Theatr Felinfach
Cost: Tocynnau ae gael drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau 01570 470697.

Dechreuodd Cwmni Dawns Rhuddem, sydd yn rhan o Raglen Dawns Gymunedol Theatr Felinfach yn arbennig ar gyfer pobl 50 oed ac uwch, yn 2009. Maent yn gweithio yn union yr un fath ag unrhyw gwmni dawns arall, gan ganolbwyntio ar dechneg dawns yn ogystal â datblygu sgiliau creadigol, coreograffi a pherfformio.

 

Dros y ddeunaw mis diwethaf, maent wedi perfformio ar lwyfan o dan gyfarwyddyd Swyddog Dawns Theatr Felinfach, Catherine Young, ac wedi cymryd rhan mewn ffilm a grewyd gan gwmni dawns Striking Attitudes o Gaerdydd ac a gafodd ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r dawnswyr ar fin perfformio unwaith yn rhagor gan iddynt dderbyn cefnogaeth ariannol gan Ŵyl Gwanwyn Age Cymru, sef digwyddiad blynyddol sydd gyda nod o hyrwyddo Celfyddydau Creadigol ar gyfer pobl hŷn.

 

Bydd perfformiad eleni yn cynnwys ymddangosiad gan Striking Attitudes, cwmni gyda dawnswyr hŷn proffesiynol. Byddwn yn gweld dau ddarn o waith newydd sbon a hefyd dangosiad o ddawns ar ffilm, gyda’r coreograffi gan Caroline Lamb, Cyfarwyddwr Artistig Striking Attitudes.

Bydd cwmni dawns arall Theatr Felinfach yn ymddangos ar y llwyfan gyda Rhuddem eleni. Mae Cwmni Dawns Dwsin y Daith, sef cwmni o bobl ifanc, yn cyd-weithio gyda hwy i greu darn yn seiliedig ar symudiadau adar yn hedfan.

 

I gael gwybodaeth ar sut i ddod yn aelod o Gwmni Dawns Rhuddem, neu os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu cwmni tebyg yn eich ardal chi, cysylltwch â Swyddog Dawns Theatr Felinfach ar 01545 572708.