Gwyl Gwanwyn yn Galeri
Type of Event: Multi Art Festival
Bydd gweithgareddau Gwyl Gwanwyn Galeri yn dechrau gyda Estyneto gyda Cai Tomos yn cynnal sesiwn symud a dawns i bobl dros 50 oed.
Bydd cyfle wedyn i unrhyw un o unrhyw oedran gyd-fwynhau wrth bicio i Stiwdio 2 i drio Sgiliau Syrcas Cimera. Dyma gyfle i weithio ar sgiliau fydd yn cynnwys jyglo, hwla hwp, diabolo, troelli plat, cerdded ar stiltiau a reidio beic un olwyn. Wedyn gellir cael hoe bach dros ginio yng nghaffi newydd Galeri cyn mynd i’r theatr i weld prif atyniad y diwrnod. Mae’r cynhyrchiad cynhyrfus Belonging/Perthyn yn dilyn bywydau dau deulu wrth iddynt ddarganfod nad yw cariad a chwerthin yn dod i ben oherwydd cychwyniad dementia.
Ar unrhyw adeg yn ystod y dydd gellir ymweld â’r Safle Celf i fwynhau gwaith yr artist David Jones sydd wedi bod yn cynhyrchu gwaith diddorol ers yr 1960au.
Dates:
- Wednesday 1st June 2016
Venue:
Start time:
10:30 AM
Duration:
All day
Cost:
£3 y person i sesiwn Estyneto / Sgiliau Syrcas am ddim / Belongin/Perthyn £10/£8 / Arddangosfa am ddim