Gwyl 2014

No Regrets

2014-no-regrets-andyComisiynodd Gwanwyn ffotograffydd o Gaerdydd, Michal Iwanowski, i archwilio’r cwestiwn a ofynnir i’r rhan fwyaf o bobl sy’n frwd dros datŵs, ‘Beth os byddwch yn edifar pan fyddwch yn hŷn?’ Ar ôl gwahodd pobl i ddangos eu tatŵs a rhannu eu straeon, darganfuwyd nad oeddent yn edifar o gwbl – nid oedd unrhyw un o’r 25 o bobl y tynnwyd eu lluniau yn edifar.

Roedd No Regrets yn dathlu harddwch y croen a’r straeon sydd arno. Mae’r straeon, a oedd ar adegau, yn rhai ysgafn a dibryder ond yn rhai gwefreiddiol iawn hefyd, yn awgrymu mai ychydig iawn sydd gan amser ac oedran i’w wneud â chelf y corff. Yr hyn sy’n gorchfygu yw derbyniad diamod o’u croen a ffocws ar fyw yn y foment, dathlu unigolrwydd ac awch am fywyd gyda balchder ac awdurdod.

Bwriad y comisiwn hwn oedd bod yn fentrus, syfrdanol a manwl, a herio syniadau ac ystrydebau rhagdybiedig ynghylch pobl hŷn a sut beth yw tyfu’n hŷn yng Nghymru.
Fe’i harddangoswyd am y tro cyntaf ym mis Mai 2014 yn Stiwdios Fat Cap, stiwdio graffiti yng Nghaerdydd, ac yna aeth ar daith i Oriel Kickplate yn Abertyleri a Doc Bach Cafe, Caernarfon (sy’n caei ei guradu gan Ganolfan Celfyddydau Galeri Caernarfon, fel rhan o Wythnos Positif am Oed Age Cymru).

Llamu i’r Gwanwyn

2014-stepping-into-spring2Llamu i’r Gwanwyn yn un o ddigwyddiadau blaenllaw Gwanwyn ar gyfer 2014. Gan weithio mewn partneriaeth â Rubicon Dance a Sherman Cymru, roedd y digwyddiad yn ddathliad o ddawns gan grwpiau dawns pobl hŷn ledled Cymru. Daeth y grwpiau hyn at ei gilydd am y tro cyntaf i arddangos a hyrwyddo amrywiaeth y gwaith sy’n cael ei greu gan ddawnswyr hŷn. Y grwpiau oedd:

  • Striking Attitudes (Caerdydd)
  • Tystion, TAN Dance (Castell-nedd Port Talbot)
  • Senior Moment(UM) (Dawns Powys)
  • NuWave (Casnewydd)
  • Atgofion (Rhondda Cynon Taf)
  • Dawns Rhuddem (Theatr Felinfach)

Roedd y digwyddiad yn cynnwys dros 70 o ddawnswyr hŷn a bron 250 o bobl yn y gynulleidfa. Fe wnaeth Llamu i’r Gwanwyn adeiladu ar lwyddiant llawlyfr Shake a Leg, a gynhyrchwyd ar y cyd gan Age Cymru a Rubicon Dance, a ddatblygodd arweinyddiaeth ymarferwyr dawns i gyflwyno dawns ar gyfer pobl hŷn.

(GOSOD CLIP FIDEO)

Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth

2014-aberystwyth-arts-centreFe wnaeth Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth agor ei drysau i unrhyw un 50 oed a hŷn ar gyfer diwrnod y celfyddydau a lles rhad ac am ddim, gyda gweithgareddau wedi’u trefnu yng nghyfleusterau’r ganolfan. Roedd pwyslais ar gael hwyl ac annog cyfranogwyr i roi cynnig ar bethau newydd.

Cymerodd y cyfranogwyr ran mewn

  • Bywluniadau
  • Ffotograffiaeth ddigidol
  • Celf llinynnau
  • Taith o gwmpas casgliad serameg y Brifysgol
  • Dangosiadau ffilm o Atgofion o Aberystwyth
  • Straeon digidol gan ddefnyddio Labordy Digidol y ganolfan
  • Crochenwaith

Galeri, Caernarfon

2012galeri-caernarfonGan ddefnyddio digwyddiadau TONIC Galeri, sy’n gyngherddau prynhawn fforddiadwy i bobl hŷn, fel hwb, mae’r berthynas rhwng Gwanwyn a Galeri yn mynd o nerth i nerth.
Fe ddangosodd Galeri’r ffilm Breath Made Visibl, sy’n dogfennu methodoleg a gyrfa dawns chwyldroadol Anna Halprin. Mae Anna yn 97 oed ac yn goreograffydd a dawnswraig. Roedd y dangosiad yn cynnwys digwyddiad ‘mewn trafodaeth’ gyda’r ymarferwr dawns blaenllaw o Gymru, Cai Tomos, sy’n cael ei fentora gan Anna. Rhannodd Cai ei brofiad a’i frwdfrydedd ar gyfer ei gwaith, ac am ddatblygu dawns ar gyfer pobl hŷn.

Perfformiodd CAIN, grŵp dawns o fenywod hŷn a gafodd eu hysbrydoli i berfformio gan Company of Elders o Theatr Sadlers Well yn ystod gŵyl flaenorol Gwanwyn, a berfformiwyd fel rhan o ddigwyddiad TONIC Galeri ar gyfer pobl hŷn. Disgrifiwyd CAIN cael aelod o’r gynulleidfa fel ‘enghraifft wirioneddol o beth ddylai dawns cymunedol fod’.

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug

Mewn partneriaeth â Dawns Gogledd-ddwyrain Cymru, cynigiodd Theatr Clwyd Cymru weithdai dawnsio creadigol rhad ac am ddim ar y thema Gwanwyn ac ailddeffroad. Yn dilyn pob gweithdy, cynhaliwyd sesiwn gymdeithasol gyda the a chacen rad ac am ddim.

Cynigiodd Theatr Clwyd docynnau Gwanwyn cynnig arbennig ar gyfer perfformiadau Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a hyrwyddo eu perfformiadau dawnsfeydd byr o Wistful Thinking ar gyfer cynulleidfaoedd hŷn.

Gŵyl Ffilm Gwanwyn ym Mhafiliwn Penarth

2014-pingpong-in-penarth-pavilionSefydlodd Gwanwyn bartneriaeth newydd gyda Phafiliwn Penarth ac arddangos cyfres o ffilmiau trwy gydol yr ŵyl, a oedd yn cynnwys The Lunch Box, YSL a Ping Pong. I gyd-fynd â phob ffilm, cynhaliwyd sesiwn gweithdy yn dilyn y dangosiad a oedd yn ymwneud â themâu’r ffilm.

Yn dilyn YSL, cymerodd y cyfranogwyr ran mewn gweithdy tynnu llun portreadau, dan arweiniad Pauline Williams. Arweiniodd Guy O’Donnell weithdy ar ysgrifennu adolygiadau yn dilyn y dangosiad o The Lunchbox – ffilm am ddyn hŷn ym Mumbai a oedd yn ei chael hi’n anodd ymdopi ar ôl marwolaeth ei wraig a sut gwnaeth dosbarthu cinio mewn camgymeriad arwain at berthynas newydd gyda menyw iau, wrth iddyn nhw lunio ffantasi gyda’i gilydd dros gyfres o nodiadau a oedd yn cael eu cyfnewid trwy’r blychau tiffin.

Roedd Ping Pong yn dilyn straeon grŵp o chwaraewyr tennis bwrdd hŷn. Llwyddodd Terry (81 oed), ar ôl cael gwybod bod ganddo wythnos i fyw, i fod o fewn gafael ennill gwobr aur. Defnyddiodd Inge (89 oed) dennis bwrdd i hyfforddi ei ffordd allan o’r ward dementia yr oedd wedi cyflwyno ei hun iddi. Mae’r enwog Dorothy o Awstralia yn 100 oed ac adnabyddus iawn yn y maes prin hwn, ac mae Lisa Modlich o Texas, chwarewraig newydd yn 85 oed, yn benderfynol o wneud unrhyw beth i ennill ei gwobr aur gyntaf. Mae’r ffilm ysbrydoledig hon yn ymwneud â chryfder yr ysbryd dynol yn gymaint â’i fyfyrdod ar farwoldeb.

Gweithiodd Gwanwyn mewn partneriaeth â Bwrdd Tennis Cymru i gynnig sesiynau blasu i gynulleidfaoedd yn dilyn y ffilm. Yn sgil hyn, daeth llawer o’r cyfranogwyr yn aelodau o Fwrdd Tennis Cymru a mynd â’u rhwydi pen bwrdd a phecynnau rhad ac am ddim i’w mwynhau adref.

3rd Age Critics

Arweiniodd Guy O’Donnell, o Response, weithdy ar ysgrifennu adolygiadau beirniadol fel rhan o ŵyl Gŵyl Gwanwyn ym Mhafiliwn Penarth.

Ers hyn, mae’r cyfranogwyr wedi dod yn rhan o rwydwaith y 3rd Age Critics.

Mynychodd aelodau o 3rd Age Critics ddigwyddiadau Gwanwyn ac adolygu Llamu i’r Gwanwyn.

Ceir adolygiad yma.

Cyfnodau Hyfforddi Once Upon A Time gan Spare Tyre

2014-sparetyre1c-patrick-baldwinGweithiodd Spare Tyre, un o elusennau celf gyfranogol blaenllaw’r DU, gyda chartrefi gofal yn ne Cymru i gyflwyno rhaglenni adrodd straeon rhyngweithiol a oedd yn para wythnos, ar gyfer pobl â dementia datblygedig, gan gynorthwyo cyfathrebu ac urddas mewn gofal.

Mae Once Upon a Time yn rhaglen adrodd straeon rhyngweithiol amlsynhwyraidd ar gyfer pobl hŷn â dementia datblygedig, ac mae’r offeryn hyfforddi ar gyfer y staff a’r gwirfoddolwyr sy’n eu cynorthwyo nhw. Mae’n ymateb i gyfranogwyr ac yn bwrpasol i ddull cyfathrebu, gallu corfforol ac ymgysylltiad unigolyn. Trwy adrodd stori, fe wnaeth yr artistiaid greu lle a rennir ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu creadigol. Defnyddir taflunio, golau, cyffwrdd, sain ac aroglau i greu cyfnodau o lawenydd a rennir sy’n ysbrydoli dychymyg y cyfranogwyr.

Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys hyfforddiant pwrpasol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr. Fe wnaeth Spare Tyre gyflwyno hyfforddiant ymarferol mewn defnyddio gweithgarwch creadigol fel offeryn craidd mewn ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn at ofal, a oedd yn canolbwyntio ar urddas a pharch. Roedd rhaid i bob aelod o staff gyflwyno gweithgaredd wedi’i gynllunio gyda’i breswylwyr o ganlyniad i’r hyfforddiant a dderbyniwyd.

Dosbarth Parkour i Ddechreuwyr ar gyfer Pobl Hŷn

2014parkour-in-cardiff-bayFe wnaeth Parkour Dance arwain gweithdai parkour cyntaf erioed Cymru wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer pobl hŷn. Roedd y gweithdai’n addysgu egwyddorion parkour – goresgyn rhwystrau ffisegol mewn amgylchedd trefol – ac annog pobl hŷn i ailddarganfod cae chwarae trefol Cae Caerdydd.

Ar ôl cynhesu wrth ddawnsio, symudwyd y sesiwn i’r awyr agored, lle defnyddiwyd popeth o reiliau i fframiau dringo plant i geisio cadw pobl hŷn yn egnïol ac ystwyth.

Dilynwch y ddolen hon i weld portread ITV Wales o’r gweithdai.

I Heart Books

2014i-heart-booksFe wnaeth yr artist gweledol, Emma Prentice, fynd ar daith gyda’r gwasanaeth llyfrgell symudol ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf. Ymunodd Emma â’r gyrwyr am 10 diwrnod dros gyfnod o 4 mis, i annog benthycwyr i ail-greu eu hoff gloriau a dyfyniadau llyfrau, gan ddefnyddio pecynnau crefft parod y gellid eu gadael gyda phob benthyciwr i’w cwblhau yn eu hamser eu hunain.

Cyfunwyd detholiad o’r gwaith a grëwyd mewn collage Mondrian-esque enfawr, ac mae wedi’i osod yn Llyfrgell Aberdâr ar hyn o bryd.

Roedd y prosiect hwn yn targedu pobl hŷn sy’n arunig yn wledig ac yn gymdeithasol yn y cymoedd, yn enwedig pobl sy’n gaeth i’w cartref nad ydynt fel arfer yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau fel Gwanwyn. Mae’r gwasanaeth ar hyn o bryd yn ymgysylltu â dros 3,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth a bron 250 o gleientiaid sy’n gaeth i’w cartref.

Wrth osod eu gwaith yn y llyfrgell ganolog, roedd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o’r gymuned gudd hon ac i gwsmeriaid sy’n gaeth i’w cartref deimlo’n rhan o rywbeth yn eu cymuned.

Rwyf yn fy 100oedd, felly nid wyf yn darllen cymaint nawr. Rwy’n hoffi straeon dirgel. Rwy’n hoffi dyfalu pwy sy’n euog
Rwy’n hoffi straeon dirgel. Byddwn i ar goll heb lyfrau sain
Rwy’n diffodd y rhaglenni sothach ar y teledu ac yn darllen yn y gwely. Rwy’n hoff iawn o ddarllen
Rwy’n hoffi llyfrau Alan Titchmarsh, ychydig o ramant ac ychydig o ddrygioni

Wythnos Gwanwyn ar Radio Rhondda

Unodd radio Radio Rhondda ag Age Cymru i gyflwyno Wythnos Gwanwyn. Mae’r orsaf radio yn Nhreherbert wedi bod yn gweithredu ers sawl blwyddyn , a threfnodd wythnos Gwanwyn lwyddiannus arall ym mis Mai 2014.

Roedd wythnos Gwanwyn yn cynnwys sioeau dyddiol gyda chyngor a chyfweliadau gyda phobl hŷn lleol sy’n ymwneud â’r celfyddydau. Caiff Radio Rhondda ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ac mae nifer o bobl hŷn yn y gymuned eisoes yn cymryd rhan weithredol yng ngwaith yr orsaf radio. Fe wnaeth nifer ohonynt gyflwyno sioeau arbennig yn ystod wythnos Gwanwyn, a oedd yn cynnwys cerddoriaeth o bob genre a thrafodaethau ynghylch pynciau sy’n berthnasol i bobl hŷn.
Cafodd derbynwyr grant Gwanwyn eu cyfweld a’u hyrwyddo fel rhan o wythnos Gwanwyn hefyd.

Dilynwch y ddolen hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Radio Rhondda.

Hanes mewn Tapestri

2014history-in-tapestryFe wnaeth aelodau o Fforwm 50+ Rhondda Cynon Taf weithio i gynhyrchu cyfres o bump o dapestrïau a oedd yn archwilio treftadaeth a diwylliant eu hardal leol. Mae’r tapestrïau wedi cael eu harddangos mewn nifer gynyddol o leoliadau ledled yr ardal, gan gynnwys canolfannau cymunedol, Ysbyty Brenhinol Morgannwg a Pharc Gwledig Cwm Dâr.

Mae’r eitemau wedi’u cwblhau yn rhyfeddol. Mae gennym ni lawer o ddoniau a chreadigrwydd, ac rwyf mor falch ein bod ni wedi gwneud hyn. Rwyf mor gyffrous. Rydym yn parhau i dderbyn syniadau ac awgrymiadau. Mae fy ystafell wely gefn wedi’i throi’n ystafell wnïo unwaith eto, ac mae tameidiau ym mhobman… mae fy ngŵr yn cofnodi negeseuon o bob man. Nid wyf byth adref.

Mae’r prosiect wedi bod yn enghraifft dda o pa mor dda yr oeddent yn gweithio fel tîm… sylwyd ar y cyfeillgarwch ac roeddent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Cynhyrchodd un aelod waith celf gwirioneddol hardd ac roedd mor wylaidd am y peth.

Mae’n atgofiad gwych o oes fawreddog Pontypridd.

Mae wedi arwain at ddiddordeb ychwanegol mewn defnyddio’r rhyngrwyd i ymchwilio i’r hanes a oedd yn sylfaen i’r prosiect.

Hyd nes i rywbeth fel hyn amlygu ei hun, nid ydych yn gwybod beth ydych yn gallu ei wneud.

Sacsoffon er Hwyl

2014sax-for-funYn dilyn gweithdai Jazz ysbrydoledig ym Mae Caerdydd, cynhaliwyd noson o berfformiadau yn y Windsor Arms ym Mhenarth. Cafodd ddechreuwyr gyfle i gyfarfod a chwarae gyda cherddorion mwy profiadol, a mwynhau buddion grŵp cyfeillgar a chefnogol i gyfnewid cytganau a gwneud ffrindiau newydd.

Mae chwarae’r sacsoffon wedi bod yn uchelgais ar hyd fy oes, ond roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n rhy hwyr i ddysgu.

Y peth gorau am ddysgu gyda Bev yw ei bod hi mor ysbrydoledig ac amyneddgar, ac mae’n rhoi hyder lle nad oedd dim yn bodoli i ddechrau.

Roedd hwn yn rhywbeth yr oeddwn i eisiau ei wneud pan yr oeddwn yn fach, ond nid oedd y math hwnnw o gerddoriaeth yn yr ysgol bryd hynny. Yna, daeth Ska a 2 Tone i’r amlwg yn y 1970au, ac roeddwn yn teimlo ei bod yn rhy hwyr i mi ddysgu. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn ystyried gwneud yr holl bethau yr oeddwn i eisiau eu gwneud pan yr oeddwn yn iau. Roedd cael teulu ac ati yn flaenoriaeth bryd hynny. Nawr, mae gen i amser i wneud beth rydw i eisiau ei wneud (rhwng gwarchod wyrion… haha!) Rwyf wedi bod yn ystyried dysgu, ond nid oeddwn yn gwybod ymhle i gychwyn. Yna, gwelais eich neges drydar a dilyn y ddolen… diolch!

Cymdeithas Tai Pwylaidd Penrhos

2014polish-housing-societyGweithiodd Cymdeithas Tai Pwylaidd Penrhos gyda’r artist, Therese Urbanska. Gweithiodd y preswylwyr gyda’r artist i greu eitemau bob dydd hardd fel platiau, llenni a deunyddiau wedi’u hysbrydoli gan themâu o chwedlau Pwylaidd. Mae’r gwaith bellach yn cael ei arddangos yn yr ardaloedd bwyta, i’w fwynhau gan y preswylwyr a’u teuluoedd a’u ffrindiau.

Roedd un fenyw yn 87 oed, ac mewn cadair olwyn. Mae ei phlant yn byw yn Llundain, felly nid ydynt yn gallu ymweld â hi’n aml. Roedd y fenyw mor hapus ei bod hi’n gallu mynd allan gyda phobl eraill am ychydig oriau a gwneud rhywbeth. Roedd hi’n egnïol iawn yn y gorffennol a chynyddodd ein gweithdai ei hyder ac roedd yn emosiynol iawn… pan ddaeth ei phlant i ymweld ychydig o wythnosau’n ddiweddarach, gofynnodd iddyn nhw fynd â hi i’r ystafell fwyta a dangosodd ei gwaith iddyn nhw. Roedd ei theulu’n hapus iawn hefyd.

Shakespeare Link

2014shakespeare-link-merry-wives-of-windsorFe wnaeth cyfres o weithdai Have-a-go Shakespeare gan Shakespeare Link wneud gwaith y bardd yn agored i bobl hŷn arunig yn wledig ym Mhowys. Fe wnaeth cymryd rhan yn y gweithdai alluogi rhai o’r cyfranogwyr i ymuno yng nghynhyrchiad Cwmni Cymunedol Willow Globe o Merry Wives of Windsor.

Nid oeddwn wedi gwneud unrhyw fath o actio erioed o’r blaen, ond fe wnes i fwynhau’r sesiwn yn fawr. Ar ôl ychydig amser, roedd y geiriau’n dod yn hawdd ac, ar ôl i mi ddeall y plot, roedd yn foddhaol iawn.

Ni allaf ddweud wrthych pa mor bwysig y mae’r gweithdai ac ennyn ein diddordeb mewn Shakespeare wedi bod i ni mewn blwyddyn yn llawn ymosodiadau digroeso. Rydych chi a Mr William Shakespeare wedi bod yn fwy effeithiol na ward yn llawn o feddygon. Bendith arnoch.

Rwy’n rhannol ddall ac rwyf wedi dysgu llawer am ddefnyddio fy llygaid yn ogystal â ffyrdd i ymdrin â Shakespeare a ffyrdd o fod gyda phobl, yn sgil Have-a-go Shakespeare.

Rydym yn dathlu cynhwysiant pobl o bob cefndir a phob oed, ac rydym o’r farn bod Shakespeare yn berchen i bawb. Mae ei waith yn darparu cyfrwng heb ei ail ar gyfer trafodaethau, dadleuon, ysgogiad cymdeithasol a hwyl.

Blind Veterans UK

2014-blind-veterans-woodworkMae Blind Veterans UK wedi bod yn gweithio gydag aelodau o’r lluoedd arfog sydd â nam ar eu golwg er 1915, ac mae celf a chrefft bob amser wedi chwarae rôl bwysig yn eu gwaith adfer. Fe wnaethant drefnu wythnos bwrpasol o weithdai ac arddangosiadau yn Llandudno, a ddaeth i ben yn Woodfest Wales ym mis Mehefin, lle gwnaethant arddangos eu gwaith.

Yn ystod yr wythnos, fe ffurfiom sawl cyfeillgarwch newydd a chryfhau hen rai. Rwy’n mynd adref gyda mwy o wybodaeth nad oedd gen i’n flaenorol, a byddwch bob amser yn cyfarfod â rhywun y gallwch ddysgu oddi wrtho. Fe wnaeth yr wythnos hon amlygu ochr greadigol pawb. Fe wnaeth feithrin hyder ac annibyniaeth, ac roedd pawb yn awyddus i orffen eu prosiectau. Fy hoff ran oedd treulio amser gyda’r cerfiwr llif gadwyn, Ian Murray. Roedd yn ddyn cyfeillgar, â’i draed ar y ddaear. Esboniodd pob rhan a gadael i ni deimlo’r gwaith wrth iddo ei gyflawni.

Mae’r wythnos hon wedi fy ysbrydoli llawer – mae fy mhen yn llawn syniadau o ran beth y gallaf ei wneud.

Gweithdai Celf mewn Iechyd Plas Maesincla

2014plas-maesinclaMae Plas Maesincla yn gartref preswyl a nyrsio ar gyfer pobl ag anawsterau cof. Fe wnaethant wahodd yr artist, Wendy Rogers, i gynnal pum gweithdy, gan archwilio dychymyg a syniadau’r cyfranogwyr.

Fe ddaeth mab un o’r cyfranogwyr, ac fe ddangosom iddo’r gwaith celf yr oedd ei fam wedi’i wneud hyd yn hyn. Roedd yn falch iawn gan nad oedd yn sylweddoli ei bod hi wedi bod yn cymryd rhan. Dywedodd ei fod yn teimlo’n dawelach ei feddwl wrth ei gweld hi’n gwneud rhywbeth yr oedd hi’n ei fwynhau, gan nad oedd hi wedi bod yn y cartref ers amser hir ac roeddent y pryderu a oedd hi’n hapus ai peidio, neu a oedden nhw wedi gwneud y peth iawn yn ei symud hi i’r cartref preswyl.

ODywedodd un dyn yn bendant NAD oedd ef yn mynd i ymuno. Fe edrychom ar lyfrau adar, a phenderfynodd beintio cynfas. Cyrhaeddodd ei chwaer a’i frawd yng nghyfraith, fe eisteddon nhw gyda ni, ac fe wnaethom ni sgwrsio wrth iddo beintio. Roedd yr awyrgylch yn braf ac fe wnaethon nhw siarad am bethau yr oedden nhw wedi’i wneud pan oeddent yn blant. Yn y pen draw, tynnodd lun hyfryd o aderyn a dywedodd ei fod wedi mwynhau’n fawr. Dywedodd ei deulu ei fod yn braf ei weld yn canolbwyntio ar rywbeth, gan yn aml, roedd yn gallu colli sylw. Gofynnodd a allai ymuno’r wythnos nesaf ac roedd yn frwdfrydig iawn.

Côr Atgofion – Prosiect Cymunedol Red Café

memories-choirRoedd hwn yn brosiect peilot a gynhaliwyd yn Abertawe i redeg côr ar gyfer pobl a oedd yn byw â dementia. Mae canu yn hynod fuddiol i bobl â’r cyflwr hwn, gan y gall cof cyhyr perfformio bara y tu hwnt i’r cam lle mae iaith lafar yn cael ei cholli. Gweithredodd Ros Evans o Opera Cenedlaethol Cymru fel arweinydd y côr ar gyfer pedwar ymarfer ac fe wnaethant berfformio dwy gyngerdd fel rhan o Gŵyl Gwanwyn.

Mae cymryd rhan yn Gwanwyn wedi galluogi’r prosiect cyffrous a phoblogaidd hwn i sicrhau cyllid ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.

Mae’n adeg o’r wythnos lle cânt adael eu cartref a dod at ei gilydd gyda hyd at 40 o bobl eraill, i chwerthin a mwynhau cwmni mewn amgylchedd ysgogol. Mae’r canu ei hun yn fuddiol yn gorfforol yn sgil anadlu a symud, yn emosiynol o ran teimlad o gysylltioldeb a lles, ac yn therapiwtig o ran cyswllt ag atgofion Mae perfformio’n hybu hunanhyder ac yn amlygu ymdeimlad o hunanwerth a cysylltioldeb â’r gymuned ehangach.

Ar gyfer cynulleidfaoedd ein perfformiadau, rwyf o’r farn ei bod hi’n gadarnhaol gweld y bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan glefyd eithaf llwm, yn byw, yn mwynhau bywyd ac yn mynegi eu hunain yn greadigol. Mae’n arddangos ei bod hi’n bosibl byw â dementia.

Gallwch weld fideo o’r côr atgofion cerddorol yma.